Ar ôl recordio Fideo rhif 1 – Wyres Megan ac Merch Megan gyda criw o delynorion or gogledd, cafwyd syniad i greu rhywbeth arall gyda cyfaill, telynores ac digwydd bod yn bennaeth Cerdd Ysgol Y Creuddyn – Elin Angharad Davies.
Mae Ysgol y Creuddyn wedi bod yn lwcus i feithrin sawl cerddor amlwg ers y flwyddyn gyntaf yn 1981. Gyda dirprwy bennaeth yr ysgol Mr Owain Gethin Davies (a chyn bennaeth cerdd yr ysgol) aethpwyd ati i gysylltu gyda sawl un ohonynt – Sioned Gwen Davies, Elgan Llŷr Thomas, Al Lewis, Arwel ‘Gildas’, Emma Walford, Sara Davies, Ryan Vaughan Davies, John Ieuan Jones, Ilid Llwyd Jones (merch pennaeth cerdd cyntaf yr ysgol – Mr Dafydd Lloyd Jones) ac Mr C ar y delyn – yna cysylltu gyda criw o athrawon, a chyn-ddisgyblion yr ysgol! Digon ffodus hefyd oedd fod dau gyn ddisgybl arall yn arbennigwyr gyda’r ochr IT – Owain Arwel Davies (Cyn Bennaeth Cerdd Ysgol y Tryfan) ac Gwydion Davies o Ganolfan Cerdd William Mathias. Teulu Cerddorol Creuddyn
Syniad y rhith-gor oedd i ddod a criw at ei gilydd – ac hefyd ffordd i godi arian tuag at achos da.
Mwynhewch a cofiwch gyfrannu